Gareth Owen Role: Erasmus exchange student, taking Junior Sophister History course First Languages: Welsh, English Other Languages: German Language: Welsh (Breatnais) Family: Celtic Spoken in: Wales Speakers: 740,000 Mae cyflwr yr iaith Cymraeg yn bwnc sydd yn cropian i fyny yn aml yn y wasg Gymreig, ac i ddweud y gwir mae’n bryd i ni newid y record. Y ffaith yw, rwy’n cael amser caled uno’r storïau apocalyptaidd o ddirywiad yr iaith gyda fy mhrofiad fel siaradwr ifanc yn 2015. Er fy mod i’n hastudio tu fas i Gymru, mae’r awydd i ddefnyddio’r iaith wedi aros. Rydym yn wlad o allfudwyr, yn enwedig ymysg y genhedlaeth ifanc, felly does bron byth prinder o siaradwyr i rannu sgwrs. Mae fy nghyd-fyfyrwyr (yn enwedig Americanwyr) wastad yn dangos diddordeb, ac efallai ychydig bach o syndod, pan maent yn darganfod fy mod i yn rhugl mewn lleiafiaith Celtaidd. Er gwaethaf y newyddion trist am gyflwr yr iaith o chyfrifiad 2011, mae yna nifer o resymau i fod yn bositif am y dyfodol. Er enghraifft, mae’r nifer o blant sy’n mynychu ysgolion gyfrwng Cymraeg yn dangos dim arwydd o wywo (tua 20% yn ysgolion uwchradd, ychydig uwch yn ysgolion cynradd). Yn Aberystwyth, fy nhre leol, mae’n bosib i mi weld doctor, prynu peint neu astudio am radd yng Nghymraeg - os nid efallai yn y drefn hynny. Nid oedd pethau fel hyn yn y gorffenol. Er oedd teulu fy mam wedi siarad Cymraeg fel iaith cyntaf ers cynhadledd, yn y 1960au wnaeth fy Nain a Taid y penderfyniad i beidio pasio’r iaith ymlaen i’w phlant. Roedd llai a llai o bobl yn defnyddio Cymraeg ac i nhw trwy Saesneg ‘oedd y dyfodol. Yn ffodus i mi, mae’r ymgyrch i amddiffyn yr iaith o difodiant wedi bod yn llwyddiannus cyn belled ac mae difrod y 20fed ganrif yn cael ei gwrthdroi. Heddiw, mewn sawl proffesiwn mae gallu gyda’r iaith yn cael ei edrych arno fel bonws sylweddol. Pob wythnos mae Mam a miloedd eraill yn mynychu gwersi Cymraeg i oedolion er mwyn alluogi nhw i gystadlu yn y farchnad ‘waith. O safbwynt personol, rwy’n difaru nac ydw i’n creu digon o amser i fforio ymysg ein barddoniaeth a llenyddiaeth frodorol. Fel iaith lenyddol mae gan y Gymraeg hanes cyfoethog gyda gweithfeydd o wir brydferthwch. Rwy’n cymryd cysur wrth wybod mae gen i oes gymedrig i lenwi’r bwlch hyn. I gloi, rwy’n annog arnoch chi, y darllenwr, i ryw ddydd ymweld â’r wlad fach sydd yn estyn allan i’r Môr Wyddeleg. Wedi’r cyfan, rydyn ni yn perthyn (yn ieithyddol)... 18
TCD Multilingual 2015
To see the actual publication please follow the link above